Sesiwn Y Pierhead: Noam Chomsky wedi ei gadarnhau

Noam Chomsky (450)Mae Sesiynau’r Pierhead yn falch o groesawu Noam Chomsky—yr ieithydd, ysgolhaig a dadansoddwr gwleidyddol—ar un o’i ymweliadau prin ag Ewrop, wrth iddo gyfarfod â’i gynulleidfa mewn sesiwn holi ac ateb i drafod pynciau llosg y dydd.

"Sefydlwyd Sesiynau’r Pierhead yn 2010 gyda’r bwriad o ddod â’r meddylwyr craffaf at ei gilydd i ganolbwyntio ar faterion sy’n effeithio arnoch chi, ar Gymru ac ar y byd. Mae’r Athro Noam Chomsky yn ieithydd, ysgolhaig a dadansoddwr gwleidyddol byd-enwog. Ef yw un o ddeallusion mwyaf dylanwadol ein hoes, ac rydym yn falch iawn ei fod yn gallu ymweld â’r Pierhead," meddai’r Llywydd, Dafydd Elis-Thomas AC.

Cynhelir Sesiwn y Pierhead gyda Noam Chomsky ddydd Gwener 11 Mawrth 2011 am 17.30, pan fydd y gynulleidfa yn cael ei gwahodd i ofyn cwestiynau iddo. Caiff ceisiadau am docynnau eu prosesu ar 3 Mawrth 2011 rhwng 12.00 a 16.30. Ffoniwch (0845) 010 5500 neu anfonwch e-bost at assembly.bookings@wales.gov.uk (cofiwch gynnwys eich cyfeiriad er mwyn i ni allu anfon eich tocynnau atoch).

Cynhelir Sesiwn y Pierhead yng nghwmni Noam Chomsky yn adeilad y Pierhead, sydd wedi’i leoli gyferbyn â’r Senedd ym Mae Caerdydd. Mae’r adeilad eiconig hwn yn un o dirnodau mwyaf cyfarwydd Cymru, a gellir ei weld bob nos fel cefndir i nifer o fwletinau newyddion.